Skip to main content

Gweithredu rhwymedigaethau'r UE mewn perthynas â gwastraff - Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Mae'r rhan yma o'r wefan yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys ar gael yn fuan.

Mae’r Deddf Atal a Rheoli Llygredd1999 yn golygu bod modd creu rheoliadau ar gyfer atal neu reoleiddio llygredd amgylcheddol a dibenion eraill, cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys darpariaethau y gellid eu gwneud, neu sy’n debyg o gael eu gwneud, dan adran 2(2) yr Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.  Yn unol â hynny, y rheoliadau dan Ddeddf 1999 yw’r prif ddull o weithredu cyfraith yr UE ar gyfer gwastraff.

Mae is-ddeddfwriaeth y Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 yn cynnwys:

  • Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.  Cyhyd ag y mae’r rhain yn ymwneud â gwastraff, maent yn gosod ac yn rheoli trwyddedu amgylcheddol ar gyfer gweithgareddau fel tirlenwi, llosgi, cloddio a gweithrediadau gwastraff cyffredinol.
  • Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr). Mae’r Rheoliadau yma’n gweithredu Cyfarwyddeb 2008/98/EC, y 'Waste Framework Directive'.  Maen nhw’n cynnwys gofynion sy’n ymwneud â: cynllun rheoli gwastraff cenedlaethol a rhaglenni atal gwastraff; gwella rheolaeth gwastraff drwy orfodaeth i gasglu deunyddiau gwastraff ar wahân a gofynion i ddilyn yr hierarchaeth gwastraff (Erthygl 4 y Waste Framework Directive); gofynion penodol i awdurdodau cynllunio ac awdurdodau trwyddedu morol mewn perthynas â thirlenwi gwastraff cloddio a dyddodi gwastraff yn y môr; gofynion i gofrestru cludwyr, broceriaid a rhai sy’n delio mewn gwastraff; a’r wybodaeth a roddir ynglŷn â throsglwyddo gwastraff.

Mae darpariaethau eraill sy’n gweithredu rhwymedigaethau’r UE yng nghyswllt gwastraff yn cynnwys:

  • Rheoliadau Batris a Chronaduron Gwastraff 2009. Mae’r rheoliadau yma’n darparu ar gyfer rheoli gwastraff o fatris a chronaduron. Maent yn darparu ar gyfer: rhwymedigaethau'r sawl sy’n cynhyrchu batris cludadwy; cynlluniau cydymffurfio batris; rhwymedigaethau i rai sy’n dosbarthu batris cludadwy; rhwymedigaethau cynhyrchu ar gyfer batris cerbydau a diwydiannol; cymeradwyo cynlluniau cydymffurfio batris; gwaredu, trin ac ailgylchu batris; pwerau a dyletswyddau’r Ysgrifennydd Gwladol a dyletswyddau rhai awdurdodau â chyfrifoldeb (gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru).
  • Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013.  Mae’r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer rheoli gwastraff cyfarpar electronig a thrydanol (ac eithrio batris a chronaduron). Maent yn darparu ar gyfer: rhwymedigaethau cynhyrchwyr; cynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr; rhwymedigaethau a hawliau dosbarthwyr; a chymryd cyfarpar electronig a thrydanol yn ôl o dai preifat.
  • Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Draws Ffiniau 2007.  Mae’r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau a rheoliadau ar gyfer cludo llwythi o wastraff rhwng Aelod-Wladwriaethau a chludo gwastraff i, ac o, wledydd y tu allan i’r UE. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn awdurdod cymwys i dderbyn a danfon ar gyfer Ardal Cymru.
  • Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005 a’r Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005. Mae’r rhain yn rheoleiddio rheolaeth gwastraff peryglus, gan gynnwys ei ddosbarthiad a threfniadau i’w drosglwyddo yng Nghymru.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021