Gwastraff ar dir
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Mae Rhan II o'r Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn cynnwys gwaharddiad ar waredu gwastraff ar dir, dyletswydd gofal mewn perthynas â throsglwyddo gwastraff ac amrywiol bwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â chasglu a gwaredu gwastraff trefol a masnachol. Mae Rhan II hefyd yn diffinio, at ddibenion y Ddeddf, gwastraff cartrefi, byd masnach a diwydiant, ac mae’n cynnwys darpariaethau i ganiatáu i awdurdodau lleol godi tâl am gasglu rhai categorïau o wastraff.
Mae’r Rheoliadau Gwastraff Rheoledig (Cymru a Lloegr) 2012 yn dosbarthu deunyddiau gwastraff yn ôl math a ffynhonnell, mewn perthynas â phwerau awdurdodau lleol i godi tâl am gasglu gwastraff.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021