Llifogydd, diogelu'r arfordir a draenio
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Mae'r gyfraith ar reoli perygl llifogydd yn gyffredinol i'w chael yn y Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, ac mae'r swyddogaethau yn y ddeddf honno i raddau helaeth wedi eu datganoli i Weinidogion Cymru. Mae Deddf 2010 yn darparu ar gyfer strategaeth rheoli risg erydu arfordirol a llifogydd cenedlaethol mewn perthynas â Chymru, ac ar gyfer strategaethau rheoli perygl llifogydd lleol.
Mae’r Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 yn gweithredu gofynion Cyfarwyddeb Ewrop ar Lifogydd. Nod y Gyfarwyddeb yw darparu dull cyson o reoli perygl llifogydd.
Yn gyffredinol, mae'r gyfraith sy’n ymwneud ag erydu arfordirol i'w chanfod yn y Deddf Amddiffyn y Glannau 1949, ac yn gyffredinol mae’r swyddogaethau o dan y ddeddf honno wedi’u trosglwyddo i Weinidogion Cymru.
Mae'r gyfraith mewn perthynas â draenio tir yn gyffredinol i'w chanfod yn y Deddf Draenio Tir 1991. Mae'r maes hwn mewn cyfraith yn cynnwys materion megis dyletswyddau tirfeddianwyr i ddraenio'r tir a diogelu tir rhag llifogydd, a swyddogaethau Byrddau Draenio Mewnol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gweinidogion Cymru.
Yn gyffredinol, mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â phob agwedd ar reoli perygl llifogydd, gwarchod yr arfordir a draenio tir. Mae hyn yn ddarostyngedig i'r cymalau cadw yn Atodlen 7A i’r Deddf Llywodraeth Cymru 2006.