Skip to main content

Draenio tir

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Mae’r gyfraith ar gyfer draenio tir i’w chael yn gyffredinol yn y Deddf Draenio Tir 1991. Mae’r maes hwn o’r gyfraith yn cwmpasu materion fel:

  • dyletswyddau tirfeddianwyr i ddraenio tir a gwarchod tir rhag llifogydd a phwerau’r awdurdodau draenio (yn amrywio o Fyrddau Draenio Mewnol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gweinidogion Cymru) i wneud hynny;
  • pwerau i wneud gwaith draenio;
  • rheolaeth dros rwystrau a strwythurau;
  • pwerau i greu is-ddeddfau draenio;
  • dyletswyddau amgylcheddol awdurdodau draenio a phwerau Gweinidogol i roi cyfarwyddyd i Fyrddau Draenio Mewnol;
  • gwaith gwella, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau, gan gynnwys rhai sy’n ymwneud ag asesiadau o’r effaith amgylcheddol.

Cyrff statudol annibynnol yw’r Byrddau Draenio Mewnol sy’n gyfrifol am ddraenio tir mewn ardaloedd ag anghenion draenio arbennig yng Nghymru a Lloegr. Weithiau cânt eu galw’n Ardaloedd Draenio Mewnol.

Cyrff cyhoeddus ydyn nhw sy’n weithredol ers tro, yn bennaf dan y Deddf Draenio Tir 1991 ac mae ganddynt y pwerau i ymgymryd â gwaith i sicrhau bod lefel dŵr a draenio yn cael ei rheoli yn eu hardaloedd, gan gynnwys gwneud gwaith i amddiffyn rhag llifogydd ar gyrsiau dŵr cyffredin.

Mae gan Fyrddau Draenio Mewnol hefyd nifer o ddyletswyddau a swyddogaethau dan eitemau deddfwriaeth eraill, ac mae llawer ohonyn nhw wedi eu gwreiddio mewn deddfau preifat: Deddfau Seneddol sy’n berthnasol i ardal benodol.

Ers 1 April 2015 Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gweithredu swyddogaethau draenio tir yr Ardaloedd Draenio Mewnol yng Nghymru. Cafodd y Byrddau Draenio Mewnol sy’n gweithredu yng Nghymru eu diddymu a’r swyddogaethau eu trosglwyddo i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021