Ansawdd a diogelu’r amgylchedd morol
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Mae’r Rheoliadau’r Strategaeth Forol 2010 yn trosi Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol Ewropeaidd a chaiff ei weithredu mewn perthynas â'r ardal strategaeth forol. Mae'r ardal strategaeth forol yn cynnwys ardaloedd mewndirol ac ar y môr ac fe'i diffinnir fel:
(a) arwynebedd y môr o fewn terfynau tua'r môr y môr tiriogaethol cyfagos i y Deyrnas Unedig, a gwely môr a ei isbridd yn yr ardal honno o'r môr;
(b) unrhyw ardal môr o fewn y terfynau y parth ynni adnewyddadwy a wely'r môr a ei isbridd yn yr ardal honno o'r môr; a gwely
(c) y môr a ei isbridd o fewn y terfynau o unrhyw ardaloedd sydd wedi'u dynodi o dan adran 1(7) o 1964 Deddf silff cyfandirol (cyn belled ag y soniodd nad sy'n dod o fewn yr ardal ym mharagraff (b)).
Mae’r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau roi’r camau rheoli angenrheidiol ar waith i gyflawni'r hyn a elwir yn 'Statws Ecolegol Da' yn eu dyfroedd morol erbyn 2020. Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i arfer eu swyddogaethau perthnasol er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r Gyfarwyddeb. O dan y Rheoliadau, mae gan Weinidogion Cymru:
- ddyletswydd i sefydlu a gweithredu rhaglen fonitro ar gyfer statws amgylcheddol dyfroedd morol;
- ddyletswydd i ddatblygu a chyhoeddi rhaglenni o fesurau sy’n angenrheidiol i gyflawni neu gynnal statws ecolegol da gan gynnwys mesurau amddiffyn gofodol;
- ddyletswydd i sicrhau bod y rhaglen o fesurau yn weithredol erbyn 31 Rhagfyr 2016 neu flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r rhaglen o fesurau, pa un bynnag yw’r cynharaf.
- bŵer i gyhoeddi cyfarwyddiadau a chanllawiau i awdurdodau er mwyn gweithredu’r Gyfarwyddeb.
Mae’r Rheoliadau yn berthnasol i ranbarthau’r Glannau a’r Môr.
Mae'r Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003 yn trosi’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Pwrpas y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yw sefydlu fframwaith ar gyfer diogelu dyfroedd wyneb mewndirol. Mae’r rheoliadau’n ymestyn un filltir fôr i’r môr a fesurir o’r gwaelodlinau. Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i arfer eu swyddogaethau er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Cyfoeth Naturiol Cymru (ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer basnau afon trawsffiniol) yw’r awdurdod cymwys at ddibenion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys pennu amcanion, monitro, cynhyrchu a gweithredu rhaglen o fesurau i gyflawni statws 'da'. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i gymeradwyo amcanion amgylcheddol, rhaglenni o fesurau a chynlluniau rheoli basnau afonydd a gyflwynir iddynt gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac, mewn perthynas ag ardaloedd basn afon trawsffiniol, Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae'r Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer (Cymru) 2009 yn trosi’r Gyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol Ewropeaidd (Environmental Liability Directive) yn rhannol. Pwrpas y Gyfarwyddeb yw sefydlu fframwaith sy’n seiliedig ar yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu er mwyn atal ac unioni difrod amgylcheddol. Mae’r rheoliadau’n berthnasol i Ranbarth y Glannau (ac eithrio difrod dŵr sy’n gyfyngedig i un filltir forol i’r môr wedi’i mesur o’r gwaelodlinau). Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod gorfodi ar gyfer difrod amgylcheddol ar y môr, ac eithrio pan fo’r gweithgaredd a achosodd ddifrod yn cael ei ganiatáu gan Gyfoeth Naturiol Cymru neu Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau gorfodi i gyflwyno hysbysiadau atal a chyflawni gwaith yn lle gweithredwr a dyletswydd i benderfynu a oes difrod amgylcheddol wedi digwydd, hysbysu gweithredwyr amdano a chyflwyno hysbysiadau adfer. Gweinidogion Cymru yw’r corff apêl mewn perthynas â rhai hysbysiadau ac mae ganddynt bwerau i roi cyfarwyddiadau i awdurdodau gorfodi eraill. Rhagwelir y bydd y Rheoliadau’n cael eu diwygio gan Weinidogion Cymru (yn unol â phwerau a roddir gan yr Gorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Dynodiad) (Rhif 2) 2014 er mwyn cynnwys difrod amgylcheddol i ddyfroedd morol fel y diffinnir gan y Marine Strategy Framework Directive.
Mae’r Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 yn trosi’n rhannol y Gyfarwyddeb Asesu Effaith Amgylcheddol neu'r Environmental Impact Assessment (EIA Directive). Mae’r Gyfarwyddeb yn ceisio sicrhau bod yr awdurdod sy’n rhoi caniatâd ar gyfer prosiect penodol, e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru wrth roi trwydded forol, yn gwneud ei benderfyniad ar sail yr holl wybodaeth am unrhyw effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd.
Gweinidogion Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yw awdurdodau priodol y Rheoliadau. Mae eu swyddogaethau’n cynnwys:
- sgrinio er mwyn gweld a oes angen Asesiad Effaith Amgylcheddol;
- rhoi cyngor am ba wybodaeth y dylid ei chynnwys mewn Datganiad Amgylcheddol (sy’n cael ei alw’n ‘gwmpasu’);
- cyhoeddi’r Datganiad Amgylcheddol a’r cais;
- ymgynghori ar y gweithgarwch a gynigir;
- rhoi gwybodaeth i wledydd Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) eraill;
- ymgynghori gyda gwledydd AEE;
- ystyried sylwadau gan y cyhoedd a’r rhai yr ymgynghorir â nhw; a
- gwneud penderfyniadau am ganiatâd yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.