Skip to main content

Morol

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Mae gan Weinidogion Cymru ystod eang o swyddogaethau mewn perthynas ag ardal y glannau a’r rhanbarthau alltraeth. Ardal y glannau yw ardal y môr nesaf at Gymru hyd at derfyn o 12 milltir forol. Y rhanbarth alltraeth yw’r  darn o fôr y tu hwnt i ardal y glannau, y mae ei union faint yn amrywio yn dibynnu ar y gyfundrefn.

Yn gyffredinol, gellir categoreiddio swyddogaethau morol Gweinidogion Cymru fel a ganlyn:

  • Trwyddedu / caniatáu
  • Cynllunio
  • Cadwraeth
  • Ansawdd ac amddiffyn yr amgylchedd

Ystyrir enghreifftiau o bob un o’r categorïau hyn isod.

Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu morol ar gyfer ardal y glannau. Mae swyddogaethau trwyddedu morol wedi cael eu dirprwyo i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n gyfrifol am weinyddu’r drefn drwyddedu forol yng Nghymru. Mae Gweinidogion Cymru yn cadw’r cyfrifoldeb am orfodi’r drefn drwyddedu forol.

Mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am baratoi cynlluniau morol ar gyfer ardal y glannau a’r rhanbarthau alltraeth. Mae cynllun morol, ymhlith pethau eraill, yn nodi polisïau ar gyfer datblygu cynaliadwy yn yr ardal y’i lluniwyd ar ei chyfer.  Rhaid wrth ganiatâd yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer cynlluniau alltraeth a chynlluniau i’r glannau sy’n ymwneud â swyddogaethau a gadwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Mae gan Weinidogion Cymru nifer o swyddogaethau cadwraeth forol. O fewn ardal y glannau, Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am ddynodi Parthau Cadwraeth Morol, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig.

Mae Gweinidogion Cymru yn arfer nifer o swyddogaethau gwarchod yr amgylchedd morol. Mae’r swyddogaethau hyn yn cynnwys dyletswydd i ddatblygu a gweithredu rhaglen o fesurau i gyflawni statws ecolegol da mewn dyfroedd morol erbyn 2020. Yn ogystal, mae Gweinidogion Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu fel awdurdodau gorfodi ar gyfer difrod amgylcheddol yn ardal y glannau.

O fewn ardal y glannau mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymhwysedd deddfwriaethol o fewn pob un o’r pynciau a restrir yn Atodlen 7 i'r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae rhai o’r pynciau yn fwy perthnasol i amgylchedd y môr nag eraill. Er enghraifft, “llongddrylliadau hanesyddol” a “diogelu cynefinoedd naturiol, yr arfordir a’r amgylchedd morol (gan gynnwys gwely’r môr)”.

Deddfwriaeth allweddol
Rhestr o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth allweddol
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
12 Hydref 2021