Skip to main content

Cadwraeth

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Mae Rhan 5 o'r Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn darparu ar gyfer cadwraeth natur forol. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i ddynodi Parthau Cadwraeth Morol (PCM). Mae ganddynt bŵer i wneud gorchmynion i hyrwyddo amcanion cadwraeth y Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru ac i gyfrannu at sefydlu rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig. Mae Gweinidogion Cymru dan ddyletswydd i ddynodi parthau cadwraeth morol er mwyn cyfrannu at sefydlu rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig. Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi o ran Parthau Cadwraeth Morol. Bydd dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adrodd i’r Senedd Cymru bob 6 blynedd ar y graddau y maent wedi cyflawni’r amcanion ar gyfer y rhwydwaith. Caiff swyddogaethau Gweinidogion Cymru eu cyfyngu i Ranbarth y Glannau.

Mae'r Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010  yn trosi’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt yn rhannol ac yn ymestyn i Ranbarth y Glannau. Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ddynodi safleoedd gwarchodedig fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau penodol ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer gwarchod rhywogaethau penodol o adar gwyllt. Ar ôl eu dynodi mae’r swyddogaethau yn nwylo Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud gorchmynion cadwraeth natur arbennig sy’n gwahardd unrhyw gamau niweidiol (rheoliad 25 o'r Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010).

Mae gan Weinidogion Cymru, ynghyd ag awdurdodau cymwys eraill, ddyletswydd gyffredinol, wrth arfer unrhyw rai o’u swyddogaethau, i ystyried y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

Mae'r Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 2007 yn trosi’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt o 2009 yn rhannol ac yn ymestyn i ardal y Môr. Diffinnir yr ardal morol ar y môr fel unrhyw ran o wely'r môr ac isbridd mewn unrhyw ardal a ddynodir o dan adran 1(7) o silff cyfandirol yn y Ddeddf 1964; ac unrhyw rhan o'r dyfroedd tu hwnt i'r môr tiriogaethol o fewn terfynau Pysgodfeydd Prydain. Mae gan Weinidogion Cymru nifer o swyddogaethau fel awdurdod cymwys o dan y rheoliadau, gan gynnwys dyletswyddau i arfer eu swyddogaethau perthnasol mewn ffordd sy'n sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y Cyfarwyddebau ac i sicrhau y cymerir camau i osgoi amharu ar rywogaethau a dirywiad cynefin sy'n ymwneud â safleoedd morol ar y môr. 

Caiff y rhan fwyaf o swyddogaethau sylfaenol o dan y Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 eu cyflawni gan Gyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am hysbysu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yna eu rheoli. Mae Gweinidogion Cymru dan ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i hybu cadwraeth a gwella’r nodweddion SoDdGA ac i geisio caniatâd ar gyfer gweithrediadau sy’n debygol o niweidio unrhyw un o nodweddion y SoDdGA. Mae’r Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn darparu hefyd ar gyfer creu gwarchodfeydd natur morol. Er hynny,  wrth i Rhan V o’r Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 ddod i rym, bydd y darpariaethau hyn wedi cael eu diddymu a bydd y gwarchodfeydd natur morol yn dod yn Barthau Cadwraeth Morol yn awtomatig.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021