Morol - beth sydd wedi ei ddatganoli?
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Mae adran 158 o'r Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006) yn darparu bod 'Cymru’n' cynnwys y môr yng nghyffiniau Cymru cyn belled â 12 milltir forol wedi’i fesur o’r gwaelodlinau arfordirol (Rhanbarth y Glannau). Yn unol â hynny, o fewn Rhanbarth y Glannau, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymhwysedd deddfwriaethol, yn amodol ar adran 108A o GoWA 2006.
Pwerau gweithredol
Mae Gweinidogion Cymru yn arfer ystod eang o swyddogaethau mewn perthynas â Rhanbarth y Glannau a Rhanbarth y Môr. Yn fras, Rhanbarth y Môr yw unrhyw ardal y tu hwnt i Ranbarth y Glannau, ond bydd yr union hyd a lled yn amrywio yn ôl y drefn. Mae rhai o’r swyddogaethau mwy pwysig a’r ardal y maent yn berthnasol iddynt yn cynnwys (nid yw'n rhestr gyflawn):
- Cynllunio morol
- Trwyddedu/ caniatadau morol
- Cadwraeth
- Ansawdd a diogelu’r amgylchedd
Cynllunio morol
Yn unol â Rhan 3 o’r Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 Gweinidogion Cymru yw awdurdod y cynllun morol. Mae gan Weinidogion Cymru’r pŵer (ac mewn rhai achosion mae ganddynt ddyletswydd) i baratoi cynllun morol ar gyfer ardal sy’n cynnwys y cyfan neu unrhyw ran o’u rhanbarth cynllunio morol. Mae cynllun morol yn ddogfen sydd, ymhlith pethau eraill, yn nodi polisïau’r awdurdod ar gyfer datblygu’r ardal berthnasol yn gynaliadwy. Mae swyddogaethau cynllunio morol Gweinidogion Cymru yn ymestyn at Ranbarth y Glannau a Rhanbarth y Môr. Mae’r ardal alltraeth (neu ar y môr) yn cyfeirio at y cyfan o Barth Cymru sydd y tu hwnt i Ranbarth y Glannau. Diffinnir Parth Cymru drwy adran gyfeirio 158 (1) Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006), sef y môr sy’n ffinio gyda Chymru o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain ac fe’i nodir yn fanwl mewn gorchymyn dan adran 53 neu adran 158(3) o GoWA 2006. Mae angen caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer cynlluniau ar y môr a chynlluniau ar y glannau a'r dyfroedd os maent yn ymwneud â swyddogaethau sydd yn nwylo’r Ysgrifennydd Gwladol o hyd.
Trwyddedu/ caniatadau morol
Mae'r Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (MCAA 2009) yn sefydlu cyfundrefn drwyddedu a gorfodi forol sy'n rhoi'r awdurdod trwyddedu a’r awdurdod gorfodi priodol i Weinidogion Cymru. Mae’r rhan fwyaf o swyddogaethau trwyddedu hyn wedi’u dirprwyo i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn unol â gorchymyn dirprwyo a wnaed o dan adran 98 o MCAA 2009; mae swyddogaethau gorfodi wedi’u cadw. Mae gan Weinidogion Cymru’r pŵer i gyfarwyddo CNC mewn perthynas â swyddogaethau trwyddedu dirprwyedig. Caiff swyddogaethau Gweinidogion Cymru eu cyfyngu i Ranbarth y Glannau ac nid ydynt yn ymestyn i weithgareddau petrolewm ac amddiffyn.
Er nad yw’n gyfundrefn forol fel y cyfryw mae’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 yn ymestyn i Ranbarth y Glannau. CNC yw’r corff penderfynu a gorfodi. Mae gan Weinidogion Cymru’r pŵer i gyfarwyddo CNC; ei gwneud yn ofynnol bod cais yn cael ei gyfeirio atynt i’w benderfynu ac mae ganddynt swyddogaethau apelio. Mae gan Weinidogion Cymru’r pŵer i gyhoeddi canllawiau hefyd.