Skip to main content

Pysgodfeydd

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Mae pysgodfeydd yn fater datganoledig ac mae gan Weinidogion Cymru ystod eang o swyddogaethau mewn perthynas â dŵr croyw a physgodfeydd morol ledled Cymru a pharth Cymru (sydd yn ei hanfod yn cynnwys hanner Cymru o Fôr Iwerddon a’r Môr Celtaidd). Mae’r cyfrifoldeb am weinyddu pysgodfeydd dŵr croyw yng Nghymru yn cael ei rannu rhwng Gweinidogion Cymru a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru).

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu polisïau pysgodfeydd canolog ac mae’n gyfrifol am weithredu a gorfodi (gan gynnwys dwyn achosion) deddfwriaeth berthnasol ynghylch pysgodfeydd o Ewrop, y DU a Chymru. Mae hyn yn cynnwys gweithredu a gweinyddu Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yr UE.

Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi cymryd cyfrifoldeb am bysgodfeydd môr y glannau yn dilyn diddymiad Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr Cymru ar 1 Ebrill 2010.

Gall Senedd Cymru basio cyfreithiau sy’n ymwneud â physgodfeydd a physgota mewn perthynas â Chymru. Fodd bynnag, mae nifer fach o feysydd sy’n ymwneud â physgodfeydd yn dal i gael eu trin ar lefel y DU (gan gynnwys rheoleiddio gweithdrefnau arbrofol gwyddonol neu eraill ar bysgod, rhai  rheolaethau mewnforio ac allforio ac awdurdodi meddyginiaethau milfeddygol a chynnyrch meddyginiaethol).

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Hydref 2021