Skip to main content

Pysgodfeydd - beth sydd wedi ei ddatganoli?

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Yn gyffredinol, mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol i basio deddfau mewn perthynas â physgodfeydd a physgota (yn unol ag adran 108 o, a pharagraff 1 o Atodlen 7 i'r, Deddf Llywodraeth Cymru 2006).

Fodd bynnag, ni all ddeddfu mewn perthynas â'r meysydd canlynol a gedwir yn ôl, fel y nodir yn Atodlen 7A i’r Deddf Llywodraeth Cymru 2006:

  • gweithdrefnau ar anifeiliaid byw at ddibenion gwyddonol neu addysgol;
  • cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol, gan gynnwys gweithgynhyrchu, awdurdodiadau i'w defnyddio a rheoleiddio prisiau;
  • gwahardd a rheoleiddio mewnforion ac allforion, ar wahân i'r canlynol—
    • gwahardd a rheoleiddio bwyd, planhigion ac anifeiliaid sy'n cael eu mewnforio a'u hallforio o Gymru yn ogystal â phethau cysylltiedig at y dibenion canlynol—
      e) gwarchod iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid neu'r amgylchedd, neu
      f) arsylwi neu weithredu rhwymedigaethau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, 
    • gwahardd a rheoleiddio bwydydd anifeiliaid, gwrteithiau neu blaladdwyr (neu bethau a gaiff eu trin yn rhinwedd deddfiad fel plaladdwyr) sy'n cael eu mewnforio a'u hallforio o Gymru at ddibenion gwarchod iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion neu'r amgylchedd.

(Ni eithrir gwahardd a rheoleiddio at ddibenion gwarchod rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl, ac felly fe'u cedwir yn ôl.)

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
03 Mehefin 2021