Skip to main content

Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026

Mae Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026 (“Deddf 2026”) yn diwygio deddfwriaeth bresennol ym maes digartrefedd a thai er mwyn:

•    Gwella gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar atal; ehangu mynediad at wasanaethau digartrefedd; a darparu cymorth ychwanegol i’r rhai sydd ei angen fwyaf; 
•    Ehangu’r cyfrifoldeb ar draws awdurdodau cyhoeddus Cymru am adnabod unigolion sy’n wynebu risg o ddigartrefedd yn gynharach a chynorthwyo fel rhan o ymateb amlasiantaethol; 
•    Sicrhau’r defnydd gorau o dai cymdeithasol i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Mae Deddf 2026 felly yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Digartrefedd), Rhan 6 o Ddeddf Tai 1996 (Dyrannu llety tai) ac, i raddau llai, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol (darperir dolen at y Nodiadau Esboniadol ar wefan deddfwriaeth.gov.uk pan fydd ar gael).
 

Dod i rym


Mae adran 43 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dod â Deddf 2026 i rym.


Daw Rhan 3 o Ddeddf 2026 i rym y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol; felly, daeth darpariaethau Rhan 3 i rym ar 2 Ebrill 2026.


Yn unol ag adran 43(2), daw pob darpariaeth arall yn Neddf 2026 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.
 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
 

Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2026 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.


Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth


Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 19 Mai 2025 gan Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (ar y pryd). Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 10 Chwefror 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Ebrill 2026.


Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2026 ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.


Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2026. Darperir dolen at y Memorandwm Esboniadol terfynol pan fydd ar gael.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
06 Mai 2026