Skip to main content

Y Gymraeg

Mae elfen graidd y gyfraith sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg i’w chael mewn deddfwriaeth sylfaenol (neu 'statudau') a wnaed gan naill ai Senedd y DU neu Senedd Cymru. Y prif statudau sy’n cynnwys darpariaethau sy’n berthnasol i’r Gymraeg yw:

Mae gorchmynion a rheoliadau (is-ddeddfwriaeth) hefyd wedi’u gwneud dan Ddeddf 1993 a'r Mesur.

Cyn Ebrill 2012, roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gyfrifol am ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru fod â chynllun iaith Gymraeg ac am fonitro eu cydymffurfiaeth â'r cynllun. Roedd yn ofynnol i’r cyrff hynny baratoi cynllun a oedd yn nodi sut roeddent yn bwriadu gweithredu'r egwyddor y dylid trin y Saesneg a’r Gymraeg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

Pasiodd y Cynulliad Cenedlaethol Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i ddiwygio'r cyfreithiau presennol ynghylch defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cael ei ddisodli gan Gomisiynydd y Gymraeg ac mae'r system bresennol o gynlluniau iaith Gymraeg yn cael ei disodli’n raddol gan safonau ymddygiad sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg.

Mae rhagor o wybodaeth am rôl Comisiynydd y Gymraeg ar gael ar ei wefan.

Deddfwriaeth allweddol y Gymraeg
Rhestr o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth allweddol
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
01 Medi 2022