Rheoliadau adeiladu
Mae'r broses reoleiddio o ran gwaith cynllunio a chodi adeiladau, dymchwel adeiladau a gwasanaethau, ffitiadau ac offer a ddarperir mewn adeiladau, neu'n gysylltiedig â nhw, oll mewn perthynas â thir penodedig y Goron a thir o dan ofal ymgymerwyr statudol penodol, wedi’i chadw yn ôl i Senedd y DU. Yn amodol ar y mater hwnnw a gedwir yn ôl, mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â rheoliadau adeiladu.
Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf Adeiladu 1984 wedi'u trosglwyddo i raddau helaeth i Weinidogion Cymru.
Deddf Adeiladu 1984:
Y Ddeddf Adeiladu 1984 (Deddf 1984) yw'r prif statud sy'n darparu ar gyfer rheoli adeiladu yng Nghymru a Lloegr. Dyma ffynhonnell pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau adeiladu. Gall rheoliadau gael eu gwneud er mwyn:
- sicrhau iechyd, diogelwch, lles a chyfleustra personau mewn neu o gwmpas adeiladau ac eraill all gael eu heffeithio gan adeiladau neu gan faterion sy'n gysylltiedig ag adeiladau;
- hyrwyddo cadwraeth tanwydd ac ynni a gwarchod neu wella'r amgylchedd;
- hwyluso datblygiad cynaliadwy;
- rhwystro gwastraff, gordreuliant, camddefnydd neu halogiad dŵr
Mae'r Deddf 1984 yn darparu ar gyfer goruchwylio cynlluniau a gwaith gan arolygwyr cymeradwy ac awdurdodau lleol. Mae'r Deddf 1984 yn cynnwys darpariaethau hefyd sy'n ymwneud ag adeiladau, yn cynnwys gofynion mewn perthynas â draenio, safleoedd diffygiol a dymchwel. Gall gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i’r defnydd o adeilad ofyn am ganiatâd cynllunio yn ychwanegol at unrhyw ganiatâd arall sydd ei angen dan y Ddeddf 1984.
Prif is-deddfwriaeth
- yn diffinio pa fathau o waith sy'n 'waith adeiladu' ac yn gwneud y rhain yn destun rheolaeth;
- yn nodi pa fath o adeiladau sydd wedi eu heithrio rhag rheolaeth;
- yn pennu’r gweithdrefnau hysbysu sydd angen eu dilyn wrth gychwyn, cynnal a chwblhau gwaith adeiladu; ac yn
- pennu’r gofynion y mae'n rhaid i agweddau unigol dylunio ac adeiladu adeiladau gydymffurfio â nhw.
Mae'r gofynion y mae'n rhaid i waith adeiladu gydymffurfio â nhw fynd i'r afael ag agweddau unigol o ddylunio ac adeiladu adeiladau, yn amrywio o faterion strwythurol, diogelwch tân, draeniad, gwaredu gwastraff, cadwraeth ynni, hylendid, ynysu rhag sŵn, awyru, diogelwch trydanol, mynediad i adeiladau a'r defnydd o adeiladau.
Mae canllawiau ymarferol ar sut i gydymffurfio â rhai o ofynion y Rheoliadau Adeiladu 2010 ar gael mewn cyfres o ddogfennau sydd wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010
Mae adran 47 o’r Ddeddf Adeiladu 1984 yn dweud y gall y cyfrifoldeb dros archwilio cynlluniau a gwaith adeiladu er mwyn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu gael ei roi i arolygydd cymeradwy yn hytrach na’r awdurdod lleol, yn ôl dewis y sawl sy’n bwriadu gwneud y gwaith. Mae’r Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 yn nodi’r gweithdrefnau ar gyfer cymeradwyo arolygwyr.
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau am oruchwylio gwaith adeiladu gan arolygydd cymeradwy.
Mae Rhan 4 yn ymwneud â gofynion y Ddeddf Adeiladu 2010 mewn perthynas â chynlluniau hunan-ardystio, cyfrifiadau cyfraddau allyrru CO2, tystysgrifau perfformiad ynni, cyfrifiadau defnydd o ddŵr iachusol, profion ynysu rhag sŵn, profi llif aer awyru mecanyddol, profion pwysedd a chomisiynu i waith adeiladu sy'n destun hysbysiad cychwynnol ac sy'n cael ei oruchwylio gan arolygydd cymeradwy.
Mae'r rheoliadau’n cynnwys cymeradwyo cyrff cyhoeddus hefyd, a gofynion gweithdrefnol ac ymgynghorol lle mae cyrff cyhoeddus yn goruchwylio eu gwaith eu hunain yn cynnwys yn arbennig y ffurfiau rhagnodedig, a'r sail i’r awdurdod cyhoeddus wrthod hysbysiad corff cyhoeddus, tystysgrif cynlluniau a thystysgrif derfynol.
Cafodd y Rheoliadau eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar sail Cymru a Lloegr. Mae swyddogaeth gwneud y rheoliadau’n ymarferadwy gan Weinidogion Cymru bellach.
Datganoli grym gweithredol
Roedd Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 200 (Gorchymyn 2009) yn gwneud darpariaeth bod rhai swyddogaethau dan y Ddeddf Adeiladu 1984 (Deddf 1984) yn cael eu trosglwyddo oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru. Ehangodd ar y trosglwyddo swyddogaethau blaenorol oedd yn ymarferadwy dan y Ddeddf 1984 a wnaethpwyd gan y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.
Trosglwyddwyd swyddogaethau arferadwy mewn perthynas ag ‘excepted energy building’ fel y diffinnir gan yr Atodlen i'r Gorchymyn 2009 i Weinidogion Cymru o dan adran 54 o'r Ddeddf Cymru 2017.
Y brif swyddogaeth a drosglwyddwyd oedd y pŵer i wneud rheoliadau adeiladu dan adran 1 o'r Ddeddf 1984 mewn perthynas â Chymru.
Dan y Gorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Dynodiad) 2008 yr Ysgrifennydd Gwladol sydd wedi'i ddynodi at bwrpasau adran 2(2) y Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â'r amgylchedd, ond nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi. Felly mae is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â pherfformiad ynni adeiladau o ganlyniad i'r Gyfarwyddeb yr UE ar berfformiad ynni adeiladau (ail-lunio) yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar sail Cymru a Lloegr.