Skip to main content

Rheoleiddio personau eraill sy'n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol

Diwygiodd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) y drefn reoleiddio ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, a diwygiodd hefyd y system o reoleiddio’r rhai sy’n gweithio yn y sector ac yn darparu gofal i blant neu oedolion sy’n agored i niwed.

Mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau rheoliadol o dan Ddeddf 2016, ond caiff y rhain eu cynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru o ddydd i ddydd.

Mae nifer o wasanaethau sy'n darparu gofal cymdeithasol yn cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2016. Mae gofyn i unrhyw berson sydd am ddarparu gwasanaeth a reoleiddir gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Rhaid i ddarparwr ddynodi person i gyflawni rôl yr “unigolyn cyfrifol” i oruchwylio'r gwaith o reoli'r gwasanaeth ac i ymgymryd â chyfrifoldebau allweddol. O dan Ddeddf 2016, gwnaed rheoliadau ar wahân mewn perthynas â’r gwahanol fathau o wasanaeth a reoleiddir sy'n nodi’r gofynion rheoliadol perthnasol yn fwy manwl.

Mae'r gwasanaethau canlynol yn cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2016.

  • gwasanaeth cartref gofal
  • gwasanaeth llety diogel
  • gwasanaeth canolfan deuluoedd preswyl
  • gwasanaeth cymorth cartref
  • gwasanaeth maethu
  • gwasanaeth mabwysiadu
  • gwasanaeth lleoli oedolion
  • gwasanaeth eirioli
     

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021