Skip to main content

Cyfrifoldebau a swyddogaethau awdurdodau lleol

Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol wrth fynd i'r afael ag anghenion gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant. Mae'r rôl hon wedi'i nodi mewn nifer o statudau. Mae cyfrifoldebau'r awdurdodau lleol mewn perthynas â gofal cymdeithasol yn ymestyn i'r meysydd hyn:

Sut mae awdurodau lleol yn cyflawni eu cyfrifoldebau gofal cymdeithasol

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) yn cynnwys gofynion ynglŷn â’r modd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r swyddogaethau a nodwyd fel 'swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol' i’w gweld yn Atodlen 2 o'r Ddeddf.

Mae adran 145(1) yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi ac adolygu codau ar ymarfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Mae adran 145(3) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth ymarfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol a geir mewn cod ac iddynt ystyried unrhyw ganllawiau perthnasol ynddo.

Caiff awdurdod lleol weithredu’n groes i god wrth ymarfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol dim ond cyhyd â bod yr awdurdod yn ystyried bod rheswm da iddo beidio â chydymffurfio â'r gofynion perthnasol, ei fod yn penderfynu ar bolisi arall ar gyfer ymarfer ei swyddogaethau, a'i fod yn cyhoeddi datganiad polisi.

Mae codau a chanllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ers datganoli, a chanllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyn datganoli, yn arwyddocaol o ran penderfynu sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas ag oedolion a phlant.

Gellir gweld rhestr o'r canllawiau a gyhoeddwyd o dan adran 7 o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970.

Gweler rhestr o'r codau a gyhoeddwyd o dan adran 145 o Ddeddf 2014.

Gellir gweld rhai o'r canllawiau ar-lein; mae rhai ar gael drwy anfon cais i Lywodraeth Cymru (mae’r manylion am sut i wneud cais wedi’u cynnwys yn y rhestr).

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau, yn adran 149B o Ddeddf 2014, i adolygu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn ymarfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Os nad yw awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau yn ddigonol, gall Gweinidogion Cymru ymyrryd o dan adran 152 o Ddeddf 2014.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
24 Mehefin 2021