Rheolaeth dros ddatblygu
Y sefyllfa gyffredinol yw bod angen cael caniatâd cynllunio ar gyfer gwneud unrhyw waith datblygu tir. Caiff datblygiad ei ddiffinio fel a ganlyn: “the carrying out of building, engineering, mining or other operations in, on, over or under land or the making of any material change in the use of any buildings or other land”. Mae rhai esemptiadau yn y TCPA 1990 rhag rheoli datblygu ac mae rhai datblygiadau'n cael eu caniatáu drwy orchmynion datblygu.
Os oes angen caniatâd, rhaid gofyn amdano yn y lle cyntaf gan yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol (ACLl).
Disgrifir y system gynllunio yng Nghymru fel system 'sy'n dilyn cynllun'. Lle mae cais yn cael ei wneud i'r ACLl am ganiatâd cynllunio, rhaid i'r awdurdod ystyried darpariaethau ei gynllun datblygu, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r cais, ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid gwneud penderfyniadau yn unol â'r cynllun datblygu oni bai bod ystyriaethau perthnasol eraill yn nodi fel arall.
Yng Nghymru, y cynllun datblygu perthnasol yw cynllun datblygu lleol pob Awdurdod Cynllunio Lleol lle mae un wedi cael ei fabwysiadu. Lle nad yw ACLl wedi mabwysiadu cynllun datblygu lleol, mae gan gynlluniau datblygu unedol (hŷn) a chynlluniau lleol neu gynlluniau strwythur statws cynllun datblygu.
Gall ystyriaethau perthnasol fod yn niferus ac yn amrywiol. Mater i'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad yn unig yw'r pwysau sydd i'w roi ar y gwahanol ystyriaethau perthnasol. Mae ystyriaethau perthnasol yn cynnwys, er enghraifft:
- polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol;
- buddiannau economaidd a buddiannau cynllunio;
- penderfyniadau apeliadau blaenorol.
Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol
Mae Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn ddatblygiadau sy'n gofyn am ganiatâd cynllunio ac yn bodloni meini prawf penodedig.
Mae cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer DNS yn wahanol i gais cynllunio arferol o ran y ffordd y caiff ei benderfynu. Yn hytrach na’r awdurdod cynllunio lleol yn gwneud y penderfyniad, yr Arolygiaeth Gynllunio fydd yn archwilio'r cais ac yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru yn seiliedig ar rinweddau cynllunio a blaenoriaethau cenedlaethol. Yna, bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu p'un ai i roi'r caniatâd ai peidio.
Mae'r Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 yn pennu'r trothwy a'r meini prawf ar gyfer y mathau o ddatblygiadau sy'n gymwys fel DNS.
Materion ariannol (ffioedd)
Mae ffioedd ar gyfer ceisiadau cynllunio a materion eraill yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru ac wedi eu cynnwys mewn rheoliadau.
Materion eraill
Mae'r TCPA 1990 yn gwneud darpariaeth i:
- addasu TCPA 1990 mewn perthynas â mwynau (y rheoliadau cyfredol sy'n berthnasol i fwynau yw'r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Mwynau) 1995);
- Gweinidogion Cymru bennu'r weithdrefn ar gyfer ymdrin ag apeliadau (yn cynnwys apeliadau gorfodi) dan TCPA 1990;
- Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn perthynas ag unrhyw rai o'u swyddogaethau dan TCPA 1990;
- hawliau mynediad ar dir dan rai amgylchiadau penodol ac ar gyfer rhai dibenion penodedig penodol.