Skip to main content

Cyfansoddiad a datganoli

Mae 'cyfansoddiad' gwlad yn egluro'n fras y trefniadau, yn enwedig y rheolau cyfreithiol, sy’n sail i’r ffordd y cydnabyddir ei bod yn cael ei llywodraethu. Mae cyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn gymhleth, ac yn anarferol mewn sawl ffordd.   Yn y rhan fwyaf o wledydd, mae gan y cyfreithiau sy’n cynnwys y cyfansoddiad statws uwch nag unrhyw fathau eraill o gyfraith, tra yn y DU mae’r deddfau ynghylch y cyfansoddiad yn syml, yn rhan o’r gyfraith gyffredin a gellir eu newid yn yr un modd ag unrhyw gyfraith arall.

Yn ogystal â chyfreithiau, mae cyfansoddiad y DU yn dibynnu i raddau helaeth hefyd ar gonfensiynau a dealltwriaeth ynghylch sut y dylai sefydliadau llywodraethu weithredu – llawer ohonynt wedi eu cynllunio i weithredu'n hyblyg gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Yn rhannol am y rheswm hwn mae'r cyfansoddiad yn anysgrifenedig hefyd, sy'n golygu, er bod y rhan fwyaf o'r deddfau, y confensiynau a’r dealltwriaethau sy'n ymwneud â'r cyfansoddiad wedi eu hysgrifennu, ni ellir dod o hyd iddynt wedi’u cofnodi’n gyfleus i gyd mewn un lle. Ymhellach, mae nifer o wahanol ffynonellau o gyfraith sy'n berthnasol i bobl y DU ac mae clytwaith o wahanol gyfreithiau wedi datblygu mewn ffyrdd gwahanol ac am resymau gwahanol.

Dyna'r cyd-destun i geisio deall sut mae Cymru'n cael ei llywodraethu, a sut mae'r gyfraith yn berthnasol yng Nghymru.  Mae deall lle mae pŵer a sefydlu pa ffynonellau cyfreithiol sy’n bodoli ar bwnc penodol yn gam cyntaf pwysig, cyn edrych yn fanwl ar yr hyn a ddarperir mewn unrhyw ddeddfau perthnasol.

Mae mwy o wybodaeth am drefniadau cyfansoddiadol Cymru a'r gwahanol ffynonellau o gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru ar gael ar dudalen "Cyflwyniad i bwerau". 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
05 Hydref 2021