Skip to main content

Deddfu yng Nghymru

Mae cyfreithiau Cymru’n cael eu gwneud gan Senedd Cymru, Senedd y DU, Gweinidogion Cymru a’r DU, a rhai cyrff eraill (er enghraifft, gall awdurdodau lleol wneud deddfau lleol a elwir yn is-ddeddfau).

Mae cyfreithiau a wneir gan Senedd Cymru a Gweinidogion Cymru yn cael eu gwneud yn benodol ar gyfer Cymru. Gall cyfreithiau a wneir gan Senedd y DU neu Weinidogion y DU fod yn berthnasol i'r DU yn gyfan, neu i rai rhannau o'r DU (er enghraifft, i Gymru a Lloegr, neu i Loegr yn unig). O ganlyniad i bwerau cynyddol Senedd Cymru, mae bellach yn anghyffredin i Senedd y Deyrnas Unedig basio Deddf sy'n ymwneud yn benodol â Chymru, oni bai ei bod yn Ddeddf ynghylch llywodraethu Cymru.

Fodd bynnag, mae llawer o Ddeddfau (neu rannau o Ddeddfau) Seneddol sy’n bodoli eisoes, yn enwedig rhai a wnaed rhwng 1999 (pan grëwyd Senedd Cymru) a 2006 (pan ddechreuodd Senedd Cymru gael cymhwysedd i basio deddfau o'r fath) yn ymwneud yn benodol â Chymru. O ganlyniad, yn aml nid yw’n hawdd dod o hyd i gyfraith sy'n ymwneud â Chymru (ceir mwy o wybodaeth ar y dudalen hygyrchedd deddfwriaeth).

Mae Senedd y DU wedi datganoli ei phwerau deddfu mewn nifer o feysydd i Senedd Cymru, gyda rhai eithriadau a chyfyngiadau. Mi roedd yr meysydd hyn, a'r eithriadau a’r cyfyngiadau, wedi eu nodi yn Atodlen 7 i'r Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ond mae'r sefyllfa rwan wedi ei drefnu ar ffyrf model "cadw pwerau" wedi ei nodi yn atodlenni 7A a 7B. Mae Senedd y DU yn cadw'r pŵer i basio Deddfau yn y pynciau y mae wedi eu datganoli i Senedd Cymru. Fodd bynnag, yn unol â chonfensiwn, ni fydd Llywodraeth y DU gan amlaf yn gofyn i’r Senedd wneud hyn oni bai bod Senedd Cymru wedi cytuno.

Gelwir cyfreithiau Senedd Cymru yn Ddeddfau'r Senedd ac mae ganddynt yr un statws â Deddfau Senedd y DU, sy'n ddeddfwriaeth sylfaenol.

Mae deddfau a wneir gan Weinidogion a chyrff eraill yn cael eu gwneud gan ddefnyddio pwerau a ddirprwywyd iddynt gan Ddeddfau Senedd Cymru neu Ddeddfau’r DU. Maent yn cael eu galw'n is-ddeddfwriaeth.

Mae Deddfau Senedd Cymru yn dechrau eu bywyd fel Biliau Senedd Cymru. Mae Biliau yn gynigion ar gyfer Deddfau y mae Senedd Cymru yn eu hystyried ac yn penderfynu p'un ai i’w ‘pasio’ neu beidio, neu mewn geiriau eraill eu gwneud yn gyfraith.

Proses Bil Senedd Cymru

Mae'r rhan fwyaf o Filiau Senedd Cymru yn cael eu cyflwyno i Senedd Cymru gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gall Aelodau'r Senedd nad ydynt yn aelodau o Lywodraeth Cymru hefyd gael y cyfle i gyflwyno Bil. Gall Pwyllgorau’r Senedd a Chomisiwn y Senedd (y corff sy'n gyfrifol am weithrediad ymarferol Senedd Cymru) hefyd gyflwyno Biliau os ydynt yn berthnasol i'w rôl.

Dan amgylchiadau cyfyngedig gellir hefyd gyflwyno Biliau Preifat – sef Biliau sy'n newid y gyfraith fel y mae'n gymwys i unigolion neu sefydliadau penodol yn unig (yn hytrach na'r cyhoedd yn gyffredinol).

Rhaid i Filiau fod o fewn pwerau deddfwriaethol Senedd Cymru (a elwir hefyd yn "gymhwysedd deddfwriaethol" Senedd Cymru) fel y nodir yn y Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Fil basio'r prawf yn adran 108A o GoWA, gan gynnwys cydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Chyfraith yr Undeb Ewropeaidd, fel mae’r rhain yn briodol i Gymru.

Mae Biliau Senedd Cymru yn pasio drwy sawl cam o gael eu hystyried a’u trafod yn Senedd Cymru cyn iddynt gael eu pasio. Mae Pwyllgorau'r Senedd yn ystyried Biliau, a chymryd tystiolaeth oddi wrth y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru ac eraill y tu allan i'r llywodraeth sydd â diddordeb ym mhwnc y Bil.

Gall y Gweinidog ac Aelodau'r Senedd nad ydynt yn aelodau o’r llywodraeth gynnig diwygiadau i'r Bil ar sawl pwynt yn ystod y broses ddeddfwriaethol.

Senedd Cymru yn eistedd yn ei gyfanrwydd (a elwir hefyd yn 'gyfarfod llawn') sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid pasio Bil. Gan amlaf, rhaid i Fil gael ei basio yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Nid yw Bil sydd wedi cael ei basio gan Senedd Cymru yn dod yn Ddeddf Senedd Cymru (ac felly nid yw’n dod yn gyfraith) hyd nes y bydd wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol gan Ei Fawrhydi.

Wedi i Senedd Cymru basio Bil, gall y Twrnai Cyffredinol (prif gynghorwyr cyfreithiol y DU) neu'r Cwnsler Cyffredinol (prif gynghorwyr cyfreithiol Llywodraeth Cymru) gyfeirio'r Bil at Oruchaf Lys y Deyrnas Unedig os ydynt o'r farn y gall y Bil fod y tu allan i gymhwysedd deddfu Senedd Cymru.

Os nad yw'r Twrnai Cyffredinol a'r Cwnsler Cyffredinol yn cyfeirio'r Bil at y Goruchaf Lys gellir ei gyflwyno ar gyfer Cydsyniad Brenhinol ac yna bydd yn dod yn gyfraith.

Dyfodol cyfraith Cymru
Rhaglen Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd Cyfraith Cymru 2021 i 2026.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
12 Medi 2022