Skip to main content

Deddfwriaeth yng Nghymru

Mae'r rhan hon o'r safle yn cael ei hadolygu a bydd deunydd pellach ar gael cyn hir.

 

Gelwir cyfreithiau Senedd Cymru yn Ddeddfau Senedd Cymru (neu Ddeddfau'r Senedd) ac mae ganddynt yr un statws â Deddfau Senedd y DU, sef deddfwriaeth sylfaenol.

Mae cyfreithiau a wneir gan Weinidogion a chyrff eraill yn defnyddio pwerau a ddirprwyir iddynt gan Ddeddfau Senedd Cymru neu Ddeddfau'r DU. Gelwir y math yma o ddeddfwriaeth yn is-ddeddfwriaeth.

Mae Deddf Senedd Cymru yn dechrau fel Bil Senedd. Cynigion ar gyfer Deddfau yw biliau, y bydd Senedd Cymru yn eu hystyried ac yn penderfynu a ddylid eu 'pasio', neu mewn geiriau eraill eu gwneud yn gyfraith. Ewch i'r dudalen Deddfu yng Nghymru i ddysgu mwy am sut mae deddfwriaeth yn cael ei gwneud yng Nghymru.

Isod ceir rhestr o holl Ddeddfau'r Senedd (a ffurf ar ddeddfwriaeth a wnaed cyn y rheini, a elwir yn Fesurau). Mae pob dolen yn mynd â chi at wybodaeth am y Ddeddf honno ac unrhyw is-ddeddfwriaeth neu ganllawiau a wnaed oddi tani. Mae rhai o'r dolenni wedi'u marcio â seren (*). Hyd nes y bydd y dudalen benodol ar gyfer y Ddeddf wedi'i chyhoeddi ar wefan Cyfraith Cymru, bydd y dolenni hyn yn mynd â chi i'r Ddeddf gyhoeddedig ar legislation.gov.uk. 

2024

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2011

2010

2009

2008

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
25 Ebrill 2024